Oherwydd pwysigrwydd cenedlaethol Cofeb y Tywysog Llywelyn, mae cymuned Cilmeri yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
• Godi arwyddion brown at y gofeb â delwedd o faes brwydr arnynt ar yr A483 ar y ddwy brif ffordd sy’n mynd i mewn i’r pentref er mwyn dynodi arwyddocâd hanesyddol ein pentref;
• Gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Cilmeri a Cadw i helpu â gwaith cynnal a chadw’r gofeb enwog, er mwyn i ymwelwyr allu mwynhau ein safle sydd o arwyddocâd cenedlaethol a hanesyddol mewn amgylchedd diogel a phriodol;
• Helpu i ddod o hyd i adnoddau i weithredu, gam wrth gam, Cynllun Dehongli Lloyd Brown (Ionawr 2013) a gomisiynwyd gan Cadw.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae’r cynllun dehongli yn rhoi sylw i’r ffaith mai Llywelyn oedd Tywysog brodorol olaf Cymru i farw ar faes y gad, gan nodi diwedd llinach bwerus Gwynedd, a oedd yn bwysig wrth feithrin ymdeimlad o genedligrwydd a hunaniaeth Gymreig.
Prif ddeisebydd: Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer y llofnodion: 305